Mewn un ystyr
mae’r cwestiwn yma yn amherthnasol – mae’r grant
canolog ddaw drwy’r setliad llywodraeth leol i fod ar gyfer
ariannu gwariant llywodraeth leol yn ei gyfanrwydd ac nid oes rhan
ohono yn cael ei neilltuo ar gyfer ysgolion nag unrhyw faes
gwasanaeth arall.
Fodd bynnag,
mae’n amlwg yn bwysig fod y fformiwla cyllido (yn cynnwys y
rhan o’r fformiwla sydd i fod i adlewyrchu cost darparu
addysg) yn gweithio mewn ffordd deg, a bod modd deall ac egluro pam
bod y swm grant gaiff Cyngor Gwynedd (ac o fewn hynny yr elfen
syniannol ar gyfer Addysg) yn newid rhwng un flwyddyn a’r
llall.
Oherwydd y
ffordd mae’r fformiwla ar gyfer elfen Addysg y setliad yn
gweithio, gallai ‘Indicator Based Assessment’ (IBA)
Addysg Gwynedd fod yn newid o un flwyddyn i’r llall oherwydd
un ai:
·
newid yng
nghyfanswm yr arian ar gyfer llywodraeth leol yng nghyllideb
Llywodraeth Cymru (Grant Cynnal Refeniw + Trethi
Annomestig);
·
newid yn y
cyfran o gyllideb cynghorau Cymru a ddynodwyd i Addysg yn y
flwyddyn cynt (e.e. mae setliad 2018/19 yn defnyddio’r cyfran
o gyfanswm cyllideb cynghorau Cymru roddwyd i Addysg yn
2017/18);
·
newid yn y
cyfran o wariant Addysg cynghorau Cymru a wariwyd ar bob sector
(cynradd, uwchradd, arbennig, ayb) ddwy flynedd yn ôl (e.e.
mae setliad 2018/19 yn defnyddio’r cyfran wariwyd ar bob
sector yn 2016/17);
·
newid yn
niferoedd disgyblion Gwynedd ddigwyddodd 15 mis cyn blwyddyn
ariannol y setliad (e.e. mae setliad 2018/19 yn defnyddio data
nifer disgyblion Ionawr 2017);
·
hefyd –
newid yn niferoedd disgyblion gweddill Cymru hyd yn oed pe bai
niferoedd Gwynedd heb newid (gan mai ar sail cyfran o ddisgyblion
Cymru mae’r fformiwla yn gweithio);
·
newid yn
niferoedd Gwynedd (neu gynghorau eraill) o ddisgyblion yn hawlio
cinio am ddim (eto ar sail data Ionawr 15 mis cyn blwyddyn y
setliad);
·
unrhyw newid
yn y dangosydd ‘gwasgaredd’ ddefnyddir i adlewyrchu
costau uwch mewn ardal wledig (er, ar hyn o bryd mae’r
dangosydd yma yn seiliedig ar ddata o Gyfrifiad 1991):
·
unrhyw newid
i bwysoliad (‘weighting’) y gwahanol ffactorau uchod yn
y fformiwla.
Mewn
gwirionedd, byddai’r rhan fwyaf o’r newidiadau uchod yn
digwydd ar draws ei gilydd mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Mae hyn
yn ei gwneud yn arbennig o anodd i ni fel Cyngor ddeall, heb
sôn am geisio egluro i’n trigolion, y newid blynyddol
yn y symiau a p’run ai oes modd cyfiawnhau’r newidiadau
yma. Mae’n anodd iawn hefyd gwneud y cyswllt uniongychol
rhwng canlyniad y fformiwla a’r hyn mae’r fformiwla i
fod i’w gyllido – sef ar ei symlaf, staff yn addysgu
disgyblion mewn adeiladau.
I oresgyn y problemau hyn, byddai’n well cael
dull sylfaenol wahanol o lunio’r fformiwla cyllido –
fel ei fod yn seiliedig ar fesurau syml a gwrthrychol o’r
angen i wario. Er enghraifft, mae’n debygol bod y gost o
redeg ysgol gynradd yn cynnwys elfen sefydlog (cost sylfaenol
rhedeg ysgol, waeth pa mor fach ydyw e.e. pennaeth, costau gwresogi
a goleuo ar gyfer yr adeilad ysgol lleiaf bosib ac ati) yn ogystal
ag elfen amrywiol (costau sy’n cynyddu yn ôl nifer y
disgyblion, e.e. staff dysgu ychwanegol, mwy o lyfrau a deunyddiau
ac ati). Dylai fod yn bosib pennu beth yw maint pob elfen ar sail
empirig.
Gellid wedyn seilio’r fformiwla ar gyfer Addysg
Gynradd ar hyn, h.y. £x y disgybl ac £y yr ysgol (gyda
nifer yr ysgolion yn dibynnu ar nifer y disgyblion ac ar batrwm
aneddiadau pob awdurdod). Byddai hyn yn fwy tryloyw, ac yn llawer
haws i’w berthnasu i’r gwir gostau y mae awdurdodau yn
eu hwynebu. Byddai’n llawer iawn haws hefyd egluro’r
newidiadau o un flwyddyn i'r llall (e.e. mae nifer y disgyblion A
yn llai bellach ac felly mae angen B yn llai o ysgolion; felly, mae
eich dyraniad yn cael ei ostwng (A x £x) ar gyfer staff a
deunyddiau a (B x £y) ar gyfer nifer yr ysgolion).
|